Cynllun Llesiant Drafft 2023 - 2028
Rhowch eich barn ar Gynllun Llesiant drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro 2023-2028
Yn dilyn ymgysylltiad ar ein Hamcanion Llesiant a gynhaliwyd dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio ar gamau y credwn y bydd angen i ni eu cymryd i gyflawni’r amcanion hyn.
Beth yw Amcanion Llesiant?
Mae Amcanion Llesiant yn esbonio sut byddwn yn blaenoriaethu’r meysydd allweddol y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn y Cynllun Llesiant. Maent wedi'u datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau ein Hasesiad Llesiant y gwnaethom ei gyhoeddi yn gynharach eleni.
Beth yw Amcanion Llesiant Sir Benfro?
ALl1 | Gweithio gyda’n cymunedau i leihau anghydraddoldebau a gwella llesiant |
ALl2 | Hyrwyddo a chefnogi mentrau i gyflawni datgarboneiddio, rheoli ymaddasu i’r newid hinsawdd a mynd i’r afael â’r argyfwng ym myd natur |
ALl3 | Sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel, cysylltiedig, dyfeisgar ac amrywiol |
ALl4 | Cefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi newid i economi gwyrddach a mwy cynaliadwy |
Hoffem eich gwahodd i roi sylwadau ar y camau gweithredu arfaethedig yr ydym wedi'u datblygu. Ynghyd â’r Amcanion Llesiant, mae’r camau gweithredu hyn yn sail i’n Cynllun Llesiant. Mae copi o’r Cynllun Llesiant drafft ar gael yn yr adran ddogfennau ar y dudalen hon. Bydd angen i chi gael golwg ar y cynllun drafft cyn rhoi eich adborth.
Hoffem glywed eich barn
Gallwch roi eich barn drwy gwblhau'r arolwg byr ar-lein isod.
Bydd angen i chi fewngofnodi / cofrestru i gael mynediad i'r arolwg. Os cewch unrhyw anawsterau, anfonwch e-bost at surveys@pembrokeshire.gov.uk am gymorth.
Fel arall, gallwch lawrlwytho'r ffurflen ymateb copi caled ac, ar ôl ei llenwi, dychwelyd i: Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.
Gallwch hefyd siarad â ni am y cynllun mewn cyfres o sesiynau trafod. I gael gwybod mwy cliciwch yma
Rhowch eich ymateb i ni erbyn dydd Gwener 17 Chwefror 2023
Gallwch ddarganfod mwy am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro yn https://www.sir-benfro.gov.uk/bwrdd-gwasanaethau-cyhoeddus