Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-24
Rhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-24 ar FacebookRhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-24 Ar TwitterRhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-24 Ar LinkedInE-bost Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-24 dolen
Consultation has concluded
Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Penfro ofyn am sylwadau ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, sydd heb newid o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Bydd y cynllun presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2023.
Cynllun cenedlaethol ydyw, a gynigir gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru ei fabwysiadu. Mae gostyngiadau'r dreth gyngor yn seiliedig ar brawf modd ac yn cael eu cyfrifo yn seiliedig ar 100% o atebolrwydd trethdalwr am y dreth gyngor.
Mae'r cynllun yn cynnwys cynigion gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer y canlynol:
ôl-ddyddio budd-daliadau
ymestyn taliadau budd-dal
eithrio pensiynau gweddwon rhyfel ac anabledd rhyfel o'r cyfrifiadau
cynyddu budd-daliadau nawdd cymdeithasol, lwfansau personol, premiymau a didyniadau pobl nad ydynt yn ddibynnol bob blwyddyn
Rydym am wybod a ydych yn CYTUNO neu'n ANGHYTUNO â'n cynigion.
Cliciwch ar y 'Complete Form' blwch isod i roi eich barn. Mae fersiwn y gellir ei lawrlwytho o'r ffurflen ar gael yn yr adran Dogfennau (i'r dde).
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Llun 17 Hydref 2022.
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych i lunio adroddiad ar yr ymgynghoriad, a gaiff ei ystyried gan y Cyngor llawn yn ystod ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei chyhoeddi fel rhan o'r adroddiad hwn.

Rhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar Gyfer 2023-24 ar FacebookRhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar Gyfer 2023-24 Ar TwitterRhannu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar Gyfer 2023-24 Ar LinkedInE-bost Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar Gyfer 2023-24 dolen