Rhannu Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi ar FacebookRhannu Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi Ar TwitterRhannu Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi Ar LinkedInE-bost Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi dolen
Cyflwyno Canolfan Adnoddau Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig ar Ysgol Penrhyn Dewi.
Mae Cyngor Sir Penfro’n gyfrifol am hyrwyddo safonau addysgol uchel ac am ddarparu addysg gynradd ac uwchradd effeithlon. Mae bod â’r ysgolion cywir o'r math cywir yn y lleoedd cywir a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer ein dysgwyr yn y yr 21ain ganrif yn her sy'n ein hwynebu, a phob cyngor ledled Cymru.
Mae ymateb i'r her hon yn golygu adolygu nifer yr ysgolion a’r mathau o ysgolion sydd gan y Cyngor yn ei ardal, ac asesu a yw'r defnydd gorau’n cael ei wneud o'i adnoddau a'i gyfleusterau ai peidio.
Mae'r Cyngor yn adolygu ei ddarpariaeth ar sail:
Ansawdd a chynaliadwyedd darpariaeth addysgol yn y dyfodol
Digonolrwydd a hygyrchedd lleoedd mewn ysgolion
Cyflwr, addasrwydd a safon adeiladau ysgolion
Gwerth am arian
Y Ddogfen Ymgynghori yn nodi'r cynnig i gyflwyno Canolfan Adnoddau Dysgu (LRC) cynradd yn Ysgol Penrhyn Dewi, er mwyn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth a Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig. Edrychaf ymlaen at gael eich barn.
Y ddogfen yn debygol o ddarparu atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin a fydd yn codi ynglŷn â'r cynnig. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â Huw Jones ar y cyfeiriad e-bost canlynol: EducationConsultations@pembrokeshire.gov.uk
Edrychwn ymlaen at gael eich barn ynglŷn â’r cynnig hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 29 Rhagfyr 2023.
MAE'R AROLWG HWN WEDI CAU.
Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori bydd yr adborth yn cael ei goladu a'i grynhoi mewn Adroddiad Ymgynghori a'i gyflwyno wedyn i'r Cyngor Sir. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o Asesiad Effaith Integredig. Bydd yr adroddiad hwn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor a bydd modd cael copïau caled ar gais. Bydd y Cyngor yn ystyried yr adroddiad ac yn penderfynu a yw'n dymuno bwrw ymlaen â'r cynnig ai peidio.
Sylwer: Ni fydd eich manylion mewngofnodi Fy Nghyfrif yn gweithio ar gyfer y system ymgynghori ar-lein Dweud Eich Dweud. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Dweud Eich Dweud, neu Fewngofnodi, os ydych eisoes yn ddefnyddiwr cofrestredig.

Rhannu Arolwg Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi ar FacebookRhannu Arolwg Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi Ar TwitterRhannu Arolwg Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi Ar LinkedInE-bost Arolwg Canolfan Adnoddau Dysgu Ysgol Penrhyn Dewi dolen