Adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio 2023
Adolygiad o'r Ddosbarthiadau etholiadol, mannau & Gorsafoedd Pleidleisio
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Atodlen A1
Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadol 2006, a Rheoliadau Adolygu Dosbarthau Etholiadol a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006.
Rydym yn cynnal adolygiad o’r dosbarthau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio yn Sir Benfro, fel y mae’n ofynnol inni ei wneud yn ôl y gyfraith.
Diben yr adolygiad yw sicrhau bod pob dosbarth etholiadol, man pleidleisio & gorsaf pleidleisio, cyn belled ag y bo modd, yn addas ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr.
Dosbarthau etholiadol
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am rannu ei ardal i mewn i ddosbarthau etholiadol at ddibenion etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig. Mae'r trefniadau a wneir ar gyfer etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig hefyd yn cael eu defnyddio ym mhob etholiad a refferendwm arall. Rhaid i bob cymuned yng Nghymru, oni bai bod amgylchiadau arbennig, fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân. Wrth ddynodi dosbarthau etholiadol, rydym yn ceisio sicrhau bod gan yr holl etholwyr gyfleusterau rhesymol ar gyfer pleidleisio cyn belled ag y bo'n ymarferol.
Mannau pleidleisio
Y man pleidleisio yw’r ardal ddaearyddol lle y mae’r orsaf bleidleisio ynddi. Mae’n arfer cyffredin diffinio pob dosbarth etholiadol fel y man pleidleisio, yn hytrach na dynodi adeilad penodol, sy’n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd.
Gorsafoedd pleidleisio
Yr orsaf bleidleisio yw'r man ffisegol y cynhelir y weithred o bleidleisio ynddi. Y Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) sy'n penderfynu ar leoliad y gorsafoedd pleidleisio.
Amserlen ar gyfer yr adolygiad
2 Hydref: Hysbysiad ffurfiol o'r adolygiad
9 Hydref: Cyhoeddi sylwadau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
9 Hydref: Cychwyn cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus
1 Rhagfyr: Diwedd cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus
7 Mawrth 2024: Y Cyngor Llawn yn ystyried y cynigion terfynol