Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau

Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau dolen

Mae dros 25 o wasanaethau bysiau lleol yn gweithredu yn Sir Benfro, ac mae bron pob un ohonynt yn cael cymhorthdal gan y Cyngor. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr ar wasanaethau bysiau yn Sir Benfro a ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19 ac maent yn dal i fod yn is na’r lefelau blaenorol ar y rhan fwyaf o wasanaethau. Darparodd y Cyngor a Llywodraeth Cymru gyllid brys i gadw gwasanaethau bysiau i fynd yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym bellach yn cynllunio rhwydwaith bysiau Sir Benfro ar gyfer 2024 a thu hwnt, ac mae pob gwasanaeth bysiau yn cael ei ail-dendro. Mae pwysau ariannu a chostau cynyddol yn golygu efallai na fydd yn bosibl i’r Cyngor barhau i ariannu’r holl wasanaethau bysiau yn yr un modd yn y dyfodol.

Hoffem glywed eich barn am y ffordd yr ydym yn bwriadu gwneud penderfyniadau ynghylch pa lwybrau ac opsiynau i’w hariannu, er mwyn darparu’r rhwydwaith bysiau cyffredinol gorau yn Sir Benfro o fewn cyfyngiadau’r gyllideb sydd ar gael.

Sut i ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Arolwg ar-lein: Gallwch roi eich barn drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein ISOD.

Drwy e-bost: Anfonwch yr arolwg wedi’i gwblhau drwy e-bost at public.transport@pembrokeshire.gov.uk

Drwy’r post: Dychwelwch gopïau papur o’r arolwg i’r Uned Drafnidiaeth, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. (Gallwch ofyn am gopi papur trwy e-bostio public.transport@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 776313.)

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 7 Ionawr 2024

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr adborth yn cael ei goladu a’i grynhoi mewn Adroddiad Ymgynghori. Bydd yr adroddiad hwn yn rhan o broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor ynghylch ariannu gwasanaethau bysiau yn Sir Benfro o fis Ebrill 2024. Bydd adborth ar y penderfyniadau a wneir yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a thrwy’r cyfryngau lleol.

Noder: Ni fydd eich mewngofnodiad Fy Nghyfrif yn gweithio ar gyfer y system ymgynghori ar-lein Dweud Eich Dweud. Bydd angen i chi gofrestru i sefydlu cyfrif Dweud Eich Dweud, neu fewngofnodi os ydych eisoes yn ddefnyddiwr cofrestredig. Os cewch unrhyw broblemau wrth fewngofnodi i’r system ymgynghori ar-lein, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch yr ymgynghoriad, anfonwch e-bost at public.transport@pembrokeshire.gov.uk

  • Mae'r arolwg hwn wedi cau.
    Cymryd yr Arolwg.
    Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Gwasanaethau Bysiau dolen
Diweddaru: 11 Jan 2024, 11:31 AC