Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023

Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 dolen

Ym mis Rhagfyr 2016, gofynnodd ymarfer ymgynghori cyhoeddus y Cyngor (Dweud Eich Dweud ar Ein Dyfodol) am eich barn ynghylch yr egwyddor o geisio adennill costau llawn darparu gwasanaethau trwy daliadau pan oedd hynny'n briodol. Eglurwyd pe byddai hyn yn dderbyniol a bod cyfle i gynyddu ffi neu dâl yn unol â'r egwyddor hon, yna byddai cynigion penodol yn cael eu llunio ac y byddem yn ymgynghori eto. Cadarnhaodd yr ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad fod hyn yn dderbyniol.

Ystyrir bod y dull hwn yn angenrheidiol fel rhan o gynllun ehangach i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol parhaus a wynebir gan y Cyngor. Amlinellir y sefyllfa hon yn fanwl yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

Yn unol â'r egwyddor adennill costau llawn, rydym wedi adolygu costau darparu rhai gwasanaethau penodol. Mae Llyfryn Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor yn nodi 71 o feysydd gwasanaeth gwahanol sydd â ffioedd a thaliadau, gyda chyfanswm o dros 1,500 o daliadau unigol.

Ni chaniateir i'r Cyngor godi tâl am rai gwasanaethau. Ar gyfer gwasanaethau eraill, mae’r swm y gellir ei godi yn cael ei osod gan statud a / neu wedi'i gapio, felly ni allwn godi mwy na’r swm a osodwyd, hyd yn oed pan fydd y gwasanaeth yn costio mwy i'w ddarparu. Ar gyfer gwasanaethau eraill, gallwn godi tâl i adennill ein costau rhesymol ar gyfer darparu'r gwasanaeth. Dyma'r gwasanaethau sy'n cael eu hadolygu.

Mae adolygiadau wedi'u cwblhau ar gyfer rhai meysydd gwasanaeth ac mae cynigion penodol i gynyddu costau a / neu i gyflwyno taliadau newydd wedi'u paratoi yn unol â'r egwyddor adennill costau llawn. Mae’r cynigion penodol hyn wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori hon ac rydym yn gofyn am eich barn arnynt.

Rydym yn gwerthfawrogi nad yw codi prisiau yn boblogaidd. Serch hynny, wrth ystyried y cynigion hyn, gofynnwn i chi fod yn ymwybodol fod gan gynhyrchu incwm rôl bwysig iawn i'w chwarae wrth leihau pwysau cyllidebol cyffredinol y Cyngor a'i allu i barhau i ddarparu rhai gwasanaethau.

Eich Barn

Gallwch ddarganfod mwy a rhoi eich barn drwy'r ffurflen ymateb ar-lein isod. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gofrestru / logio i mewn cysylltwch â surveys@pembrokeshire.gov.uk am gymorth.

Neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen ymateb copi caled. Unwaith y bydd wedi’i chwblhau, e-bostiwch y ffurflen i surveys@pembrokeshire.gov.uk neu postiwch hi i: Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion yw dydd Gwener 24 Chwefror 2023.

Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar y 13eg o Fawrth 2023.

  • AR GAU: Mae'r ymgynghoriad yma wedi dod i ben
    Ffurflen Gyflawn
    Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Ffioedd a Thaliadau 2023 dolen
Diweddaru: 27 Chwef 2023, 08:26 AC