Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25

Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25 ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25 Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25 Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25 dolen

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Fel cynghorau eraill yng Nghymru, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau cyllidebol parhaus a bydd angen i ni wneud arbedion cyllidebol. Amcangyfrifir bod y bwlch cyllido ar gyfer 2024-25 yn £27.1 miliwn, gyda'r potensial iddo gynyddu ymhellach. Mae'r ffigwr hwn yn seiliedig ar y dybiaeth ein bod yn derbyn cynnydd o 3.1% yn ein setliad gan Lywodraeth Cymru.

Dros y degawd diwethaf, rydym wedi llwyddo i wneud arbedion cyllideb sylweddol o £96.7 miliwn, gyda chefnogaeth eich awgrymiadau arbed. Bydd deall pa wasanaethau sy'n bwysig i chi yn ein helpu i wneud y dewisiadau anodd i osod cyllideb y Cyngor ar gyfer 2024–25 a thu hwnt.

Rydym wedi datblygu Offeryn Modelu Cyllideb a bydd hwn ar gael yma Opsiynau Cyllideb gov.uk (yn agor mewn tab newydd).

I gael gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r modelwr cyllideb, lawrlwythwch y ddogfen “Gwybodaeth Defnyddiwr Modelwr Cyllideb 2024-25” o dan yr adran Dogfennau Ymgynghori.

Eich Barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o bennu'r gyllideb a'r broses gynllunio ariannol tymor canolig.

Gallwch roi eich barn ar ein dewisiadau arbed cyllideb drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein ISOD.

Fel arall, gallwch lawrlwytho ac argraffu'r ffurflen ymateb, ei llenwi a'i dychwelyd. Dychwelwch y ffurflen i policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) neu drwy'r post at Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch ymholiadau@sir-benfro.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch.

Bydd rhagor o wybodaeth am y gyllideb yn cael ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cabinet ar 4 Rhagfyr 2023 a gellir ei gweld ar wefan y Cyngor: Y Cyngor a Democratiaeth .gov.uk (yn agor mewn tab newydd). Gallwch ddod o hyd i bapurau a gweld gweddarllediadau o'r cyfarfodydd hyn trwy'r ddolen hon.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw 3 Ionawr 2024.

Mae'r arolwg hwn wedi cau.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei defnyddio i helpu Cynghorwyr i benderfynu beth fydd y gyllideb derfynol ar gyfer 2024-2025. Ni fyddwn yn defnyddio'ch enw nac unrhyw un o'ch manylion personol yn yr adroddiad a gyflwynir i Gabinet y Cyngor ar 12 Chwefror 2024. Bydd y Gyllideb yn cael ei phennu gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2024.

Noder: Ni fydd eich manylion mewngofnodi ar gyfer Fy Nghyfrif yn gweithio ar gyfer y system ymgynghori ar-lein Dweud Eich Dweud. Bydd angen i chi gofrestru i sefydlu cyfrif Dweud Eich Dweud, neu Fewngofnodi, os ydych eisoes yn ddefnyddiwr cofrestredig.

Ar gyfer cofrestru ar gyfer Dweud Eich Dweud neu faterion cofrestru, e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk. (yn agor mewn tab newydd).

  • Mae'r arolwg hwn wedi cau.
    Cymryd yr Arolwg
    Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Cyllideb Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Cyllideb dolen
Diweddaru: 04 Jan 2024, 11:46 AC