Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon

Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon dolen

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu ei her ariannol fwyaf erioed ac, yn yr un modd â gwasanaethau eraill y cyngor, mae’n ofynnol i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd leihau ei gostau cynnal i helpu i gyflawni cyllideb gytbwys.

Credwn y gallwn leihau ein costau cynnal yn Llyfrgell Glan-yr-afon gydag effaith gyfyngedig arnoch chi drwy ddileu amserau agor na wneir llawer o ddefnydd ohonynt.

Rydym yn gwybod bod Gwyliau Banc a’r 6 dydd Sul pan fyddwn ar agor yn ystod gwyliau’r haf (h.y. mis Gorffennaf a mis Awst) yn dawel iawn. Felly, rydym yn cynnig peidio ag agor y Llyfrgell ar y 5 Gŵyl Banc (Dydd Gwener y Groglith, Dydd Llun y Pasg, Calan Mai, Gŵyl Banc y Gwanwyn a Gŵyl Banc Haf mis Awst), na’r 6 dydd Sul yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Credwn y bydd hyn yn cael llai o effaith o lawer arnoch na chau yn ystod yr wythnos neu ar ddydd Sadwrn.

Hoffem wybod a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â hyn.

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Dydd Iau 25 Ionawr 2024, erbyn 5pm. Diolch am eich amser.

  • Take Survey
    Rhannu Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon ar Facebook Rhannu Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon Ar Twitter Rhannu Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon Ar LinkedIn E-bost Oriau Agor Llyfrgell Glan-yr-afon dolen
Diweddaru: 25 Jan 2024, 11:25 AC