Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Doc Penfro
Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Doc Penfro ar FacebookRhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Doc Penfro Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Doc Penfro Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Doc Penfro dolen
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu ei her ariannol fwyaf erioed ac, yn yr un modd â gwasanaethau eraill y cyngor, mae’n ofynnol i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd leihau ei gostau cynnal i helpu i gyflawni cyllideb gytbwys.
Credwn y gallwn leihau ein costau cynnal yn Llyfrgell Doc Penfro gyda llai o effaith arnoch chi drwy leihau ein niferoedd staffio a lleihau ein hamserau agor na wneir llawer o ddefnydd ohonynt, yn hytrach na chau am ddiwrnod cyfan o’r wythnos neu 2 hanner diwrnod.
Rydym yn gwybod mai nos Fercher 5-6.30 p.m. yw un o’n hadegau tawelaf. Felly, rydym yn cynnig bod y llyfrgell yn cau am 5 PM ar ddydd Mercher. Yn ogystal, rydym wedi ystyried ymarferoldeb lleihau ein niferoedd staff o 3 i 2 ar ddyletswydd yn ystod gweddill ein horiau agor. Credwn fod hyn yn ymarferol ac y bydd yn cael llai o effaith arnoch na chau am ddiwrnod cyfan neu 2 hanner diwrnod.
Os byddwn yn rhoi’r newid hwn ar waith, bwriadwn fonitro ei effaith yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod. Os byddwn yn canfod nad yw’r gostyngiad mewn staff yn gynaliadwy, byddwn yn ystyried lleihau oriau agor unwaith eto, er mwyn cynyddu ein lefelau staffio, a byddwn yn ymgynghori â chi eto bryd hynny.
Hoffem wybod a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â’r cynigion hyn.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Dydd Iau 25 Ionawr 2024, erbyn 5pm. Diolch am eich amser.