Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Aberdaugleddau
Rhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Aberdaugleddau ar FacebookRhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Aberdaugleddau Ar TwitterRhannu Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Aberdaugleddau Ar LinkedInE-bost Ymgynghoriad Cyhoeddus ynglŷn â newidiadau i Oriau Agor Llyfrgell Aberdaugleddau dolen
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu ei her ariannol fwyaf erioed ac, yn yr un modd â gwasanaethau eraill y cyngor, mae’n ofynnol i’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd leihau ei gostau cynnal i helpu i gyflawni cyllideb gytbwys.
Credwn y gallwn leihau ein costau cynnal yn Llyfrgell Aberdaugleddau, gan effeithio cyn lleied â phosibl arnoch chi, trwy ddileu ein horiau agor tawelaf yn ystod yr wythnos. Er mwyn gwneud yr arbedion angenrheidiol, mae angen i ni leihau oriau agor 8 awr yr wythnos.
Rydym yn gwybod mai prynhawn dydd Mercher a dydd Gwener, a 5-6pm ar ddydd Iau, yw ein hadegau tawelaf. Felly, rydym yn cynnig bod y Llyfrgell yn cau am 1.30pm ar ddydd Mercher a dydd Gwener ac am 5pm ar ddydd Iau. Credwn y bydd hyn yn cael llai o effaith arnoch na phetaem yn cau ar adegau eraill o’r wythnos neu ar ddydd Sadwrn.
Hoffem wybod a ydych yn cytuno neu’n anghytuno â hyn.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Dydd Iau 25 Ionawr 2024, erbyn 5pm. Diolch am eich amser.