Traeth Poppit Holiadur Ar Gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus
Rhannu Traeth Poppit Holiadur Ar Gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar FacebookRhannu Traeth Poppit Holiadur Ar Gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus Ar TwitterRhannu Traeth Poppit Holiadur Ar Gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus Ar LinkedInE-bost Traeth Poppit Holiadur Ar Gyfer Ymgynghoriad Cyhoeddus dolen
Nod yr holiadur hwn yw casglu barn ar y trefniadau presennol ar gyfer mynediad trafnidiaeth i Draeth Poppit a chael adborth ynglŷn â datblygu gwelliannau lleol posibl. Bydd allbwn yr ymarfer ymgynghori hwn yn llywio'r astudiaeth gyfredol sy'n cael ei chynnal gan WSP ar ran Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Bwriedir i'r ffurflen hon fod yn ddienw; nid oes angen i ni gadw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi felly byddwch yn ofalus i beidio â rhoi unrhyw fanylion personol wrth gwblhau'r meysydd testun rhydd. Mae gan Gyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei phrosesu'n briodol a'i chadw'n ddiogel.
Drwy gwblhau’r arolwg hwn, rydych yn cytuno y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio at ddiben yr astudiaeth hon yn unig gan Gyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a chan WSP (y DU), eu hymgynghorydd penodedig.
Os hoffech gopi papur o'r ffurflen ymateb ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551, fel y gallwn wneud trefniadau i bostio hwn atoch.
Diolch am roi o’ch amser i gwblhau’r ffurflen.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18/08/2023.