Terms of Use

Dyddiad dod i rym: Daw'r Telerau Defnyddio hyn i rym ar 15 Mehefin 2020. 

Darperir y Wefan (a ddiffinnir isod) hon gan Gyngor Sir Penfro at ddefnydd unigolion a wahoddir gan Gyngor Sir Penfro i ddefnyddio'r Wefan. Bang the Table (“BTT,” neu “ni”) sy'n gweithredu ac yn lletya'r Wefan er budd Cyngor Sir Penfro. 

Mae Cyngor Sir Penfro a BTT yn eich croesawu i borth ymgysylltu cymunedol Cyngor Sir Penfro yn www.haveyoursay.pembrokeshire.gov.uk / www.dweudeichdweud.sirbenfro.gov.uk

 (Y “Wefan”). Er mai Cyngor Sir Penfro, neu unigolion eraill a wahoddir gan Gyngor Sir Penfro i ddefnyddio'r Wefan, sy'n darparu ac yn rheoli pob un o'r cwestiynau, arolygon, fforymau, trafodaethau, a Chynnwys arall (a ddiffinnir isod) ar y Wefan, BTT sy'n berchen ar y dechnoleg a'r hawliau eiddo deallusol sy'n gyrru'r Wefan, ac yn eu gweithredu. Byddwch yn gallu ymgysylltu a chyfathrebu â Chyngor Sir Penfro a phartïon eraill â diddordeb ar y Wefan. 

Mae'r Telerau Defnyddio hyn yn cynnwys telerau ac amodau pwysig sy'n disgrifio eich hawliau a'ch rhwymedigaethau ac yn disgrifio sut rydych yn cael defnyddio'r Wefan. Dylech ddarllen y telerau defnyddio hyn yn ofalus. Rydych yn cael mynd i'r Wefan a'i defnyddio ar sail y telerau ac amodau a nodir yn y telerau defnyddio hyn ac yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Penfro ac yn ein Polisïau Preifatrwydd a Chymedroli ein hunain. Drwy fynd i'r Wefan a'i defnyddio, ac ni waeth p'un a fyddwch yn cofrestru ar y Wefan ai peidio, rydych yn cytuno â'r telerau defnyddio hyn, Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Penfro ac ein Polisïau Preifatrwydd a Chymedroli ein hunain. 

TELERAU CYFFREDINOL   

CYNNWYS 

  •  Wrth ddefnyddio'r term “Cynnwys,” rydym yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth, data, cerddoriaeth, ffeiliau sain, ffotograffau, graffigau, delweddau, fideos, erthyglau, neu gynnwys arall y gellir ei gyrchu ar y Wefan. Darperir y Cynnwys gan Gyngor Sir Penfro a defnyddwyr eraill y Wefan. Nid yw BTT yn creu, yn lanlwytho nac yn darparu unrhyw Gynnwys a welir ar y Wefan. Unrhyw Gynnwys y byddwch yn ei ddarparu neu'n ei lanlwytho i'r Wefan yw “Eich Cynnwys.” Nid yw BTT (a) yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantiadau mewn perthynas â'r Cynnwys a thrwy hyn mae'n ymwadu â phob sylw a gwarantiad mewn perthynas â'r Cynnwys, ac nid yw BTT (b) yn gyfrifol am sylwedd, cywirdeb, cyflawnder, priodoldeb, na chyfreithlondeb y Cynnwys.
  • Ni ellir disgwyl y caiff eich Cynnwys ei gyhoeddi ar y Wefan.
  • Rydych hefyd yn cydnabod ac yn cytuno bod gennym ni a'n hasiantiaid dynodedig yr hawl (ond nid y rhwymedigaeth), yn ôl ein disgresiwn yn unig, i adolygu a monitro Cynnwys ar y Wefan, gan gynnwys Eich Cynnwys, a'n bod yn cael tynnu unrhyw Gynnwys, gan gynnwys deunydd os yw'n groes i'n Polisi Cymedroli, neu wrthod ei gyhoeddi, yn ôl ein disgresiwn yn unig.  Noder nad ydym ni na Chyngor Sir Penfro yn golygu eich Cynnwys.
  • “Cynnwys Cysylltiedig” yw unrhyw gynnwys, deunyddiau, neu wefan heblaw am y Wefan y gallwch fynd iddynt yn uniongyrchol drwy ddilyn dolen ar y Wefan. Gellir cyhoeddi dolenni i Gynnwys Cysylltiedig ar y Wefan. Nid yw BTT yn cymeradwyo unrhyw Gynnwys Cysylltiedig o'r fath, nac yn cymryd cyfrifoldeb amdano, nac unrhyw wybodaeth, deunyddiau, cynhyrchion neu wasanaethau a geir neu a gynigir ar neu drwy Gynnwys Cysylltiedig. Os byddwch yn cyrchu Cynnwys Cysylltiedig drwy'r Wefan, rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun, ac rydych yn deall nad yw'r Telerau Defnyddio hyn na Pholisi Preifatrwydd BTT yn gymwys i'ch defnydd o Gynnwys Cysylltiedig o'r fath. Rydych yn rhyddhau BTT o unrhyw atebolrwydd a phob atebolrwydd sy'n codi o'ch defnydd o unrhyw Gynnwys Cysylltiedig, y Wefan neu Gynnwys.
  • Pan fyddwch yn mynd i'r wefan hon ac yn ei defnyddio, bydd y wybodaeth a roddir gennych yn eiddo i'r rheolydd data (Cyngor Sir Penfro). Gall y wybodaeth hon gynnwys data personol (e.e. eich enw, oedran, manylion cyswllt ac ati). Rôl BTT yw prosesu'r data hyn ar ran y rheolydd data. Ystyr prosesu (ymhlith pethau eraill) yw: sicrhau bod y wefan hon yn rhedeg yn iawn, bod eich data'n cael eu cadw'n ddiogel a'u bod ar gael i'r rheolydd data fel bod modd iddo reoli'r wefan a'ch mewnbwn yn effeithiol.

COFRESTRU 

  • Efallai y bydd gofyn i chi gofrestru cyn defnyddio'r Wefan neu gyfrannu cynnwys iddi, neu cyn defnyddio cyfleusterau neu swyddogaethau penodol ar y Wefan. Os bydd angen i chi gofrestru, mae'r Adran 3 hon, yn gymwys i chi. Er mwyn cofrestru i gael cyfrif ar y Wefan, mae'n rhaid i chi fod naill ai'n: (a) 14 oed neu wedi cyrraedd (b) yr oedran sy'n ofynnol o dan y gyfraith lle rydych yn byw i gytuno contract cyfrwymol â BTT, p'un bynnag yw'r hynaf. Wrth gofrestru, byddwch yn:  (i) cyflwyno gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn yn unig amdanoch chi eich hun pan ofynnir i chi drwy weithdrefn gofrestru'r Wefan (y “Data Cofrestru”); (ii) cynnal a diweddaru'r Data Cofrestru yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau yn wir, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn.
  • Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n anwir, yn anghywir, yn anghyfredol neu'n anghyflawn, neu os bydd Cyngor Sir Penfro yn amau eich bod wedi rhoi gwybodaeth o'r fath, gellir atal eich cyfrif dros dro neu ei derfynu.
  •  Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru ar y Wefan, byddwch yn cael cyfrinair ac enw cyfrif i ddefnyddio'r Wefan. Rydych chi: (i) yn gwbl gyfrifol am gadw cyfrinachedd eich cyfrinair a'ch cyfrif; (ii) yn gwbl gyfrifol am unrhyw weithgareddau sy'n digwydd o dan eich cyfrinair neu'ch cyfrif; (iii) yn cytuno hysbysu BTT ar unwaith os byddwch yn gwybod neu'n amau bod rhywun wedi defnyddio'ch cyfrinair neu'ch cyfrif heb awdurdod, neu os byddwch yn gwybod am unrhyw achos arall o dorri diogelwch neu'n ei amau; (iv) yn cytuno i beidio â chreu mwy nag un cyfrif ar y Wefan.
  • Efallai y bydd angen i ni, neu ein hasiantiaid, fynd i mewn i'ch cyfrif er mwyn ymateb i broblemau o ran y gwasanaeth neu broblemau technegol.
  • Gall Cyngor Sir Penfro gyfathrebu â chi drwy eich cyfrif drwy anfon negeseuon, cylchlythyrau, a gwybodaeth arall.

TERFYNU 

  • Caiff BTT, yn ôl ei ddisgresiwn yn unig neu wrth ddilyn cyfarwyddiadau Cyngor Sir Penfro, gan roi gwybod i chi neu heb roi gwybod i chi, am unrhyw reswm, ddod â'ch cyfrinair, eich cyfrif neu'ch defnydd o'r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) i ben, a thynnu a dileu unrhyw Gynnwys ar y Wefan, gan gynnwys Eich Cynnwys, am unrhyw reswm.  Er enghraifft, os byddwch yn cyhoeddi cynnwys sy'n groes i Bolisi Cymedroli'r Wefan dro ar ôl tro, gellir atal eich cyfrif dros dro neu ei derfynu.
  • Rydych yn cytuno y caiff BTT, yn ôl ei ddisgresiwn yn unig ac ar unrhyw adeg, roi terfyn ar ddarparu'r Wefan, neu unrhyw ran ohoni, i chi gan roi gwybod i chi neu heb roi gwybod i chi, a heb fod yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd partïon.  


POLISI PREIFATRWYDD

Mae eich defnydd o'r Wefan, gan gynnwys y broses casglu Data Cofrestru a gwybodaeth bersonol arall amdanoch gan Gyngor Sir Penfro, yn ddarostyngedig i Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Penfro a'n Polisïau Preifatrwydd a Chymedroli, sy'n rheoli sut mae BTT a Chyngor Sir Penfro yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. 

YMDDYGIAD DEFNYDDWYR

Rydych yn deall ac yn cytuno â'r canlynol: 

  •  cyfrifoldeb yr unigolyn a'i cyhoeddodd yn unig yw unrhyw Gynnwys, a chi yn unig sy'n atebol am Eich Cynnwys ac yn gyfrifol amdano.
  • fe’ch gwaherddir rhag hysbysebu neu gynnig gwerthu neu brynu unrhyw nwyddau neu wasanaethau ar y Wefan.

ni chaniateir i chi wneud y canlynol:


    • cyhoeddi Cynnwys sydd: (a) yn torri unrhyw batent, nod masnach, cyfrinach fasnach, hawlfraint neu unrhyw hawliau perchenogol eraill sy'n eiddo i unrhyw barti; (b) yn groes i unrhyw gyfreithiau cymwys neu sy'n anghyfreithlon; neu (c) yn ymyrryd â hawliau unrhyw drydydd parti, gan gynnwys yr hawl i breifatrwydd;
    • trosglwyddo Cynnwys sy'n hysbysebion digymell neu ddiawdurdod, deunyddiau hyrwyddo, "post sothach", "sbam", "llythyrau cadwyn", "cynlluniau pyramidaidd", arolygon, cystadlaethau neu unrhyw fath arall o erfyniadau, neu sy'n cynnwys deunyddiau o'r fath.
    • trosglwyddo Cynnwys sy'n cynnwys feirysau meddalwedd, cneifion mynediad, mwydod, bomiau amser, botiau canslo, neu unrhyw god cyfrifiadurol, ffeiliau neu raglenni eraill sydd â'r nod o ymyrryd â gweithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol neu gyfarpar telathrebu, neu ddinistrio neu gyfyngu ar eu gweithrediad, neu sy'n gallu gwneud hynny.
    • trosglwyddo Cynnwys sy'n niweidiol i'r rhai dan oed mewn unrhyw ffordd;
    • cam-bersonadu unrhyw berson neu endid, gan gynnwys heb gyfyngiad, gynrychiolydd Bang the Table neu ddefnyddiwr arall y Wefan, neu ddatgan yn anwir eich cysylltiad â pherson neu endid, neu fel arall ei gamliwio;
    • creu hunaniaeth ffug er mwyn camarwain pobl eraill mewn perthynas â phwy ydych chi neu bwy yw awdur unrhyw neges;
    • ymyrryd â'r Wefan neu weinyddion neu rwydweithiau sy'n gysylltiedig â'r Wefan neu amharu arnynt, neu beidio ag ufuddhau i unrhyw ofynion, gweithdrefnau, polisïau neu reoliadau sy'n perthyn i rwydweithiau sy'n gysylltiedig â'r Wefan;
  • rhaid i chi werthuso unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio unrhyw Gynnwys a bod yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â dibynnu ar gywirdeb, cyflawnder, priodoldeb neu ddefnyddioldeb Cynnwys o'r fath.
  • Bydd Cyngor Sir Penfro yn gweld Eich Cynnwys ac efallai y bydd Eich Cynnwys ar gael yn gyhoeddus ar y Wefan neu yn rhywle arall. Yn ogystal, hyd yn oed os nad yw Eich Cynnwys ar gael yn gyhoeddus nac i drydydd partïon ar y Wefan, efallai y bydd Eich Cynnwys yn ddarostyngedig i gyfreithiau cofnodion agored cymwys.
  • Mae'r Wefan yn rhoi cyfle i chi ymgysylltu â thrydydd partïon a chyfathrebu â nhw, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro. Rydych chi'n cytuno mai rhyngoch chi a Chyngor Sir Penfro a'r trydydd partïon perthnasol yn unig yw eich cyfathrebiadau â Chyngor Sir Penfro ac unrhyw drydydd partïon drwy'r Wefan.


ADDASIADAU A THERFYNU

Mae BTT a Chyngor Sir Penfro yn cadw'r hawl i addasu neu derfynu mynediad i'r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) ar unrhyw adeg ac o bryd i'w gilydd, gan roi gwybod neu heb roi gwybod, dros dro neu'n barhaol heb fod yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti. 

PROBLEMAU

Os byddwch yn cael problemau gyda'r Wefan, neu os ydych o'r farn eich bod wedi gweld Cynnwys sy'n groes i'r telerau hyn, neu os bydd gennych gwestiynau am y Wefan, cysylltwch â Bang the Table yn support@engagementhq.com(Dolen allanol). 

Telerau sy'n Benodol i BTT 

YMWADIADAU 

Mae BTT yn cynnig y Wefan a'r Cynnwys i chi ar sail "fel y mae" ac "fel y mae ar gael" heb warantiad o unrhyw fath. Nid yw BTT yn gwneud unrhyw sylw na gwarantiad y bydd y Wefan yn ddi-dor, yn amserol, yn ddiogel neu'n rhydd o wallau. Hyd eithaf yr hyn a ganiateir yn ôl cyfreithiau cymwys, mae BTT yn ymwadu'n benodol ag unrhyw warantiadau o unrhyw fath sy'n codi o'r wefan neu'r cynnwys neu sy'n gysylltiedig â nhw, p'un a ydynt yn benodol neu'n ymhlyg, gan gynnwys heb gyfyngiad yr holl warantiadau ymhlyg sy'n ymwneud â marchnadwyedd, addasrwydd at ddiben penodol, teitl a dim tor-rheol.

INDEMNIAD A RHYDDHAU 

Byddwch yn indemnio BTT a'i is-gwmnïau, cysylltiedigion, swyddogion, asiantiaid a phartneriaid eraill, yn ogystal â'i gyflogeion, a'u hystyried yn ddiniwed, ac yn amddiffyn unrhyw un neu bob un o'r uchod ar gais BTT, rhag unrhyw hawliad, achos gweithredu, achos neu orchymyn ac unrhyw gostau, treuliau, iawndal ac atebolrwydd arall sy'n gysylltiedig â nhw, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol rhesymol sy’n gysylltiedig â’r canlynol neu sy'n deillio ohonynt: (a) Eich Cynnwys; (b) eich rhyngweithio neu'ch cydberthynas â <EICH SEFYDLIAD>; ac (c) os byddwch yn ymyrryd â hawliau unrhyw unigolyn arall neu'n torri cyfreithiau cymwys. 

HAWLIAU PERCHENOGOL BTT

Mae BTT yn lletya'r wefan hon ac ni fydd yn defnyddio unrhyw ddata y byddwch yn eu cyhoeddi ar y wefan am unrhyw ddiben heblaw am feincnodi, gan ddefnyddio data heb nodau adnabod, ac adrodd i'r cleient oni bai bod y data hynny eisoes ar gael yn gyhoeddus. Nid ydym yn gwerthu rhestrau o fanylion defnyddwyr i drydydd partïon. 

  • Rydych yn cydnabod ac yn cytuno â'r canlynol:
    •  mae'r Wefan ac unrhyw feddalwedd a thechnoleg angenrheidiol a ddefnyddir mewn perthynas â'r Wefan, gan gynnwys y feddalwedd a elwir yn Engagement HQ™ ond heb fod yn gyfyngedig iddi, yn cynnwys gwybodaeth berchenogol a chyfrinachol sy'n cael ei diogelu gan gyfreithiau eiddo deallusol cymwys a chyfreithiau eraill, a BTT sy'n berchen ar bob un o'r uchod; 
    • mae'n bosibl bod y Cynnwys sy'n cael ei gyflwyno i chi drwy'r Wefan neu drwy drydydd partïon wedi'i ddiogelu gan hawlfraint, nodau masnach, nodau gwasanaeth, patentau neu hawliau a chyfreithiau perchenogol eraill.
  • Drwy hyn rydych yn rhoi hawl a thrwydded anghyfyngedig, ddiderfyn, ddiwrthdro, ddifreindal a llawndaledig, i wneud y canlynol: (a) defnyddio eich enw neu enw defnyddiwr/enw sgrin ac Eich Cynnwys at ddibenion busnes BTT, gan gynnwys i ddarparu'r Wefan i .; a (b) is-drwyddedu eich Cynnwys i Gyngor Sir Penfro at ei ddibenion busnes. Dim ond at ddibenion meincnodi, defnyddio data heb nodau adnabod a rhoi adroddiadau i Gyngor Sir Penfro y bydd BTT yn defnyddio cynnwys. Nid ydym yn gwerthu rhestrau o fanylion defnyddwyr i drydydd partïon.
  • Nodau marchnad BTT yw nod marchnad BANG THE TABLE ac unrhyw logos ac enwau cynhyrchion a gwasanaethau a ddefnyddir gan BTT. Ni fyddwch yn arddangos nac yn defnyddio nodau Bang the Table mewn unrhyw ffordd heb gael caniatâd gennym ymlaen llaw.


HAWLFRAINT a DEDDF HAWLFRAINT Y MILENIWM DIGIDOL (DMCA)

  • Rydych yn cael rhoi Cynnwys ar y Wefan wrth ddefnyddio'r Wefan. Rydych yn cadw eich hawliau i'ch Cynnwys.


CYFYNGU ATEBOLRWYDD

HYD EITHAF YR HYN A GANIATEIR YN ÔL CYFREITHIAU CYMWYS MAE BTT, AR RAN EIN CYFARWYDDWYR, SWYDDOGION, CYFLOGEION, ASIANTIAID ("PARTÏON A RYDDHAWYD"), YN NACÁU AC YN GWADU ATEBOLRWYDD AM BOB COLLED A THRAUL AG Y BO SY'N CODI MEWN UNRHYW FFORDD GAN GYNNWYS HEB GYFYNGIAD UNRHYW IAWNDAL ANUNIONGYRCHOL, CYFFREDINOL, ARBENNIG, COSBOL, CYSYLLTIEDIG NEU GANLYNIADOL; COLLI DEFNYDD; COLLI DATA; COLLED A ACHOSWYD GAN FEIRWS; COLLI UNRHYW INCWM NEU ELW;  COLLI EIDDO NEU DDIFROD I EIDDO, HYD YN OED OS RHODDWYD GWYBOD I NI AM BOSIBILRWYDD DIFROD NEU GOLLED O'R FATH, SY'N CODI O'R DEFNYDD O'R WEFAN HON NEU SY'N GYSYLLTIEDIG Â HYNNY. RYDYCH YN DERBYN CYFRIFOLDEB LLAWN DROS SEFYDLU UNRHYW WEITHDREFNAU AR GYFER GWNEUD COPÏAU WRTH GEFN O DDATA A GWIRIO AM FEIRYSAU SYDD EU HANGEN YN EICH BARN CHI. MAE'R CYFYNGIAD HWN AR ATEBOLRWYDD YN GYMWYS P'UN A YW'R ATEBOLRWYDD YN SEILIEDIG AR UNRHYW GONTRACT, CAMWEDD (GAN GYNNWYS ESGEULUSTRA), ATEBOLRWYDD CAETH NEU UNRHYW SAIL ARALL. NI FYDD ATEBOLRWYDD CYFUN Y PARTÏON A RYDDHAWYD AM ATEBOLRWYDD A FYDDAI WEDI BOD YN GYFYNGEDIG FEL ARALL YN FWY NA DEG PUNT (£10.00). Nid yw rhai awdurdodaethau yn caniatáu nacáu gwarantiadau penodol na chyfyngu ar atebolrwydd am iawndal cysylltiedig neu ganlyniadol, na'i nacáu.

NEWIDIADAU

Caiff BTT newid y telerau defnyddio o bryd i'w gilydd heb roi gwybod i chi ymlaen llaw (er y byddwn yn rhoi gwybod i Gyngor Sir Penfro am y newid), a byddwn yn rhoi gwybod bod y telerau defnyddio wedi cael eu diweddaru drwy eu cyhoeddi ar y Wefan. Yr unig rwymedi sy'n bosibl os nad ydych yn cytuno â'r telerau defnyddio diwygiedig yw rhoi terfyn ar eich defnydd o'r Wefan.

GWYBODAETH GYFFREDINOL

  •  Y Telerau Defnyddio a Pholisi Preifatrwydd BTT yw'r holl gytundeb rhyngoch chi a BTT, ac maent yn llywodraethu eich defnydd o'r Wefan, gan ddisodli unrhyw gytundebau blaenorol rhyngoch chi a BTT.
  • Caiff y telerau defnyddio a'r berthynas rhyngoch chi a BTT eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr heb ystyried unrhyw wrthdaro â darpariaethau'r gyfraith. Caiff unrhyw anghydfod neu hawliad sy'n ymwneud mewn unrhyw ffordd â'ch defnydd o'r Wefan ei ddatrys drwy gyflafareddu cyfrwymol, yn hytrach nag yn y llysoedd, ond bod modd i chi ddatgan hawliadau mewn llys hawliadau bychain os bydd eich hawliadau'n gymwys. Rydych yn cytuno mai dim ond ar sail unigol y cynhelir unrhyw achosion datrys anghydfod, ac nid mewn unrhyw gyd-achos, achos cyfunol neu achos cynrychioliadol. Os bydd hawliad yn mynd rhagddo mewn llys yn lle drwy gyflafareddu am unrhyw reswm, rydym yn ildio unrhyw hawl i gael treial gerbron rheithgor. Rydym hefyd yn cytuno bod modd i chi, neu i ni, ddod ag achos gerbron llys i wahardd torri hawliau eiddo deallusol neu gamddefnydd arall ohonynt.
  • Ni chaniateir trin ein methiant i arfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y telerau defnyddio fel ein bod yn ildio'r hawl neu'r ddarpariaeth.
  • Os bydd llys ag awdurdodaeth gymwys yn penderfynu bod unrhyw ddarpariaeth yn y telerau defnyddio yn annilys, yna dylid tybio bod darpariaeth o'r fath wedi'i dileu, ond dylai'r llys geisio gweithredu bwriadau'r partïon fel y'u hadlewyrchir yn y ddarpariaeth, a bydd darpariaethau eraill y telerau defnyddio yn parhau yn eu llawn rym ac effaith.
  • Mae eich hawliau a'ch rhwymedigaethau o dan y telerau defnyddio yn bersonol, ac ni ellir eu haseinio na'u trafod mewn unrhyw ffordd heb ein caniatâd, y gellid ei wrthod yn unol â'n disgresiwn llwyr.
  • Mae penawdau'r telerau defnyddio er hwylustod yn unig ac nid ydynt yn effeithio ar unrhyw ddehongliad.