Rhannu Strategaeth Toiledau Lleol Drafft 2023 ar FacebookRhannu Strategaeth Toiledau Lleol Drafft 2023 Ar TwitterRhannu Strategaeth Toiledau Lleol Drafft 2023 Ar LinkedInE-bost Strategaeth Toiledau Lleol Drafft 2023 dolen
Cyhoeddwyd y Strategaeth Toiledau Lleol gyntaf ar gyfer Cyngor Sir Penfro ym mis Mai 2019, ac roedd yn canolbwyntio ar sut y gallwn sicrhau dyfodol cynifer â phosib o doiledau cyhoeddus presennol, cynyddu'r ddarpariaeth y tu hwnt i flociau toiledau annibynnol traddodiadol yn y sir, a gwella mynediad ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.
Roedd sefyllfa ariannol Awdurdodau Lleol yn 2019 yn heriol ac roedd nifer eisoes wedi cau toiledau o fewn eu hardaloedd i gyrraedd targedau o ran arbed cyllidebau. Ni fu gan Awdurdodau Lleol erioed ddyletswydd statudol i ddarparu toiledau, er mai canfyddiad yn aml yw mai cynghorau sy'n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau i drigolion, ymwelwyr a'r economi, mae'r strategaeth wedi cael ei hadolygu a'i diwygio, gan ystyried yr hinsawdd ariannol bresennol sydd hyd yn oed yn fwy heriol na phan ysgrifennwyd y strategaeth gyntaf. Mae'r heriau ariannol hyn yn debygol o barhau i'r dyfodol.
Nid yw cynhyrchu'r strategaeth hon yn golygu y bydd yr holl ddarpariaeth bresennol a ddarperir gan Gyngor Sir Penfro yn parhau. Byddwn yn edrych i sefydlu modelau cynaliadwy ar gyfer darparu cyllid ar draws y sir a ddarperir gan amrywiaeth o ffynonellau.
Eich Barn
Gallwch roi eich barn trwy'r ffurflen ar-lein isod. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth gofrestru / logio i mewn cysylltwch â surveys@pembrokeshire.gov.uk am gymorth.
Fel arall, argraffwch gopi caled. Ar ôl cwblhau'r ffurflen, dychwelwch i surveys@pembrokeshire.gov.uk neu drwy'r post: Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
Ymateb gan Dydd Gwener 31 Mawrth 2023.
Bydd eich ymatebion yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud ar y strategaeth.

Rhannu Drafft Strategaeth Toiledau Lleol Sir Benfro 2 ar FacebookRhannu Drafft Strategaeth Toiledau Lleol Sir Benfro 2 Ar TwitterRhannu Drafft Strategaeth Toiledau Lleol Sir Benfro 2 Ar LinkedInE-bost Drafft Strategaeth Toiledau Lleol Sir Benfro 2 dolen