Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2022
Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar LinkedIn
E-bostiwch y ddolen hon
Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn ddigwyddiad gwobrwyo blynyddol i gydnabod a dathlu plant a phobl ifanc sy’n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae'r gwobrau yn gyfle i chi enwebu rhywun rydych chi'n teimlo sy'n haeddu cydnabyddiaeth am ei gyflawniadau rhagorol.
Gallwch enwebu unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc ar gyfer gwobr ar draws deg categori. Gall unrhyw un enwebu ac mae hyd yn oed hunan-enwebiadau yn cael eu derbyn.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 10 Hydref 2022.
Diweddaru: 08 Sep 2022, 10:38 AC