Gosod Rhent 2024/25
Briff
Bob blwyddyn, mae pob landlord tai cymdeithasol yn cynnal adolygiad o’i renti tai yn unol â’r polisi a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Safon Gosod Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth ar draws Cymru. Mae pethau penodol y mae’n rhaid i ni eu hystyried wrth adolygu eich rhenti, sy’n cynnwys cydbwyso’r angen i gynnal a chadw a gwella eich cartrefi â sicrhau bod y rhent yn parhau i fod yn fforddiadwy i chi fel tenantiaid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol i bob cyngor a chymdeithas tai yng Nghymru ynghylch y blaenoriaethau canlynol:
- Gwneud eich cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni.
- Cynnal Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ym mhob cartref ynghyd â chyflwyno safonau uwch o dan SATC 2023 diwygiedig.
- Adeiladu mwy o dai cymdeithasol sydd ag allyriadau carbon sero net neu’n agos iawn ato.
- Cynyddu lefelau cymorth i denantiaid er mwyn cynnal tenantiaethau a lleihau digartrefedd.
- Lleihau/dileu digartrefedd.
Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u nodi yn ein Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai, sydd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Eleni, mae Gweinidog Cymru wedi cyhoeddi, o fis Ebrill 2024, y terfyn uchaf (cap) y gall rhenti cymdeithasol ei godi fydd 6.7% - cynnydd ymhell islaw cyfradd chwyddiant. Dyma’r cynnydd mwyaf y gall unrhyw landlord ei godi ar draws ei holl eiddo ac nid yw’n ofyniad nac yn darged.
Wrth osod y rhenti, mae’n rhaid i ni ystyried yr angen i gydymffurfio â safonau polisi rhent Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sicrhau bod ein rhenti yn parhau i fod yn gymaradwy â chostau rhent awdurdodau lleol a chymdeithasau tai eraill.
Fel awdurdod lleol, mae ein rhenti yn sylweddol is na rhenti cymdeithasau tai yn Sir Benfro ac awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru. Ar hyn o bryd mae rhent wythnosol Cyngor Sir Penfro dros 52 wythnos yn £97.90 o gymharu â rhent wythnosol cyfartalog Cymru o £107.16
Rydym wedi gweld costau cynnal a chadw/atgyweirio a thaliadau eraill sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaeth yn parhau i gynyddu, gyda chost deunyddiau yn codi cymaint â 30% mewn rhai achosion. Felly, mae’n rhaid i ni gydbwyso cadw lefelau rhent yn fforddiadwy â thalu costau’r gwasanaeth. Mae hyn yn golygu bod cynyddu lefelau rhent yn anochel er mwyn adlewyrchu chwyddiant.
Mae’n bwysig nodi bod yr holl incwm a gynhyrchir trwy renti’r cyngor yn cael ei wario ar ddarparu gwasanaethau landlordiaid, adeiladu tai cyngor newydd a gwneud gwelliannau i eiddo presennol.
Eleni, rydym yn bwriadu blaenoriaethu a buddsoddi yn y canlynol:
- Adeiladu ar y gefnogaeth a ddarperir i denantiaid, trwy gynyddu nifer y staff Cymorth Ariannol a Chasgliadau sy'n gallu estyn allan i denantiaid. Canolbwyntio ar
ymgysylltu’n gynnar â’r rhai sy’n cael trafferth talu eu rhent neu sydd ag ôl-ddyledion.
- Sicrhau bod cymaint o arian grant â phosibl ar gael gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o fynd i’r afael â chaledi ariannol a sicrhau’r budd mwyaf posibl.
- Sefydlu Cronfa Galedi Ariannol wedi’i thargedu i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd brys ar gyfer ein tenantiaid.
- Parhau â’n rhaglen fuddsoddi yn ein stoc tai i sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy.
- Parhau â'n rhaglen datblygu tai cyngor newydd lle bydd 400 o dai cymdeithasol CSP newydd yn cael eu hadeiladu dros y bum mlynedd nesaf.
Gwyddom nad yw codiadau rhent yn boblogaidd a bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi arwain at straen emosiynol ac ariannol ar gynifer o bobl oherwydd y cynnydd mewn costau byw. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gynnal a buddsoddi yn eich cartrefi er eich budd chi ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Os ydych chi’n denant sy’n profi anhawster yn talu eich rhent, cysylltwch â ni er mwyn i ni gael sgwrs am y cymorth y gallwn ei roi i chi.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Byddem yn gwerthfawrogi eich amser yn llenwi'r arolwg amgaeedig.
Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r arolwg, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid Tai ar y rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost isod, a bydd un o'n tîm yn hapus i ddarparu cymorth dros y ffôn.
(Ffôn) 07901254009 (E) HousingFST@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau i dderbyn yr holl ymatebion i’r arolwg yw: 20/11/2023