Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis

Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis ar Facebook Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis Ar Twitter Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis Ar LinkedIn E-bost Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis dolen

Mae Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis wedi bod yn cydweithio fel ffederasiwn ‘meddal’ ers mis Medi 2022, gyda Phennaeth y gyntaf o’r rhain yn gweithredu fel Pennaeth Gweithredol. Mae hyn yn dilyn nifer o gylchoedd recriwtio pennaeth aflwyddiannus ar gyfer Ysgol Gatholig San Ffransis.

Mae cydweithio rhwng ysgolion yn un o’r daliadau canolog ym mholisi Llywodraeth Cymru, a rôl yr awdurdod lleol yw cefnogi ysgolion o’r fath. Fel a nodwyd uchod, mae’r sefyllfa barhaus o fethu â recriwtio pennaeth ar gyfer Ysgol Gatholig San Ffransis wedi arwain y corff llywodraethu, gyda chefnogaeth Esgobaeth Mynyw, i’r casgliad bod sefydlu ffederasiwn yn gam rhesymegol a synhwyrol ymlaen.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyrff llywodraethu Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis ar 7 Mawrth 2023 ac 1 Chwefror 2023 yn y drefn honno gyda thrafodaethau ynglŷn â threfniadau arweinyddiaeth yr ysgolion yn y dyfodol. Penderfyniadau’r ddau gorff llywodraethu oedd cefnogi egwyddor Ffedereiddio ac y dylai’r broses gael ei harwain gan yr awdurdod lleol. Wedi hynny, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i fanteision sefydlu Ffederasiwn yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill 2023, gyda chymeradwyaeth yn cael ei rhoi i’r Cyfarwyddwr Addysg gychwyn ymgynghoriad statudol.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn egluro’r achos dros newid i’r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu yn Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis gyda golwg ar sefydlu Ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol.

Edrychwn ymlaen at gael eich barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 21 Gorffennaf 2023.

  • Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.

    Sylwer y byddwn yn trefnu bod unrhyw sylwadau a wneir gennych ar gael yn gyhoeddus fel rhan o’r adroddiad dilynol. Ni ofynnir i chi ddarparu eich manylion personol. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei thrin yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018. 

    Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch y ffurflen at: Mr Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.  Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 21 Gorffennaf 2023.

    Cymerwch Arolwg
    Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis ar Facebook Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis Ar Twitter Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis Ar LinkedIn E-bost Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd ac Ysgol Gatholig San Ffransis dolen
Diweddaru: 24 Jul 2023, 08:12 PM