Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant

Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant ar Facebook Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant Ar Twitter Rhannu Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant Ar LinkedIn E-bost Cynnig i ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant dolen

Mae Ysgol Gatholig Teilo Sant wedi bod yn gweithio gyda Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Tafarnysbyty a Thredeml ers i’w Phennaeth ymddeol ym mis Ionawr 2023. Methodd y Corff Llywodraethu â phenodi i swydd Pennaeth sy’n Addysgu yn dilyn dwy hysbyseb yn ystod gwanwyn a haf 2023.

Fel Ffederasiwn rhwng dwy Ysgol Gymunedol, nid yw Ffederasiwn ffurfiol rhwng Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Tafarnysbyty a Thredeml, ac Ysgol Gatholig Teilo Sant yn opsiwn.

Bydd Pennaeth Ysgol Gatholig Mair Ddihalog yn ymddiswyddo ym mis Awst 2023. Yng ngoleuni’r heriau a brofwyd gan Ysgolion Catholig eraill yn Sir Benfro wrth geisio recriwtio Pennaeth parhaol, mae Corff Llywodraethu Ysgol Gatholig Mair Ddihalog, ar ôl ystyried yr opsiynau sydd ar gael, wedi cytuno i ymgynghori ynghylch sefydlu Ffederasiwn gydag Ysgol Gatholig Teilo Sant, a adnabuwyd fel yr opsiwn mwyaf addas.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyrff llywodraethu Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant ar 1 Mawrth 2023 a 30 Ionawr 2023 yn y drefn honno gyda thrafodaethau ynglŷn â threfniadau arweinyddiaeth yr ysgolion yn y dyfodol. Penderfyniadau’r ddau gorff llywodraethu oedd cefnogi egwyddor Ffedereiddio ac y dylai’r broses gael ei harwain gan yr awdurdod lleol. Wedi hynny, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i fanteision sefydlu Ffederasiwn yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill 2023, gyda chymeradwyaeth yn cael ei rhoi i’r Cyfarwyddwr Addysg gychwyn ymgynghoriad statudol.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn egluro’r achos dros newid i’r trefniadau arweinyddiaeth a llywodraethu yn Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant gyda golwg ar sefydlu Ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol.

Edrychwn ymlaen at gael eich barn ynglŷn â’r cynnig hwn.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 21 Gorffennaf 2023.

  • Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben.

    Sylwer y byddwn yn trefnu bod unrhyw sylwadau a wneir gennych ar gael yn gyhoeddus fel rhan o’r adroddiad dilynol. Ni ofynnir i chi ddarparu eich manylion personol. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei thrin yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018. 

    Ar ôl ei chwblhau, dychwelwch y ffurflen at: Mr Steven Richards-Downes, Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 21 Gorffennaf 2023

    Cymerwch Arolwg
    Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant ar Facebook Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant Ar Twitter Rhannu Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant Ar LinkedIn E-bost Cynnig i Ffedereiddio Ysgol Gatholig Mair Ddihalog ac Ysgol Gatholig Teilo Sant dolen
Diweddaru: 24 Jul 2023, 08:12 PM