Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024–28
Ynglŷn â'r ymgynghoriad
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2024-28 yn disgrifio sut rydym yn bwriadu parhau â'n hymrwymiad i gydraddoldeb a sut byddwn yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae fersiwn hawdd ei ddeall ar gael o'r Cynllun Drafft a'r Ffurflen Ymateb.
Mae’n rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi sut y byddant yn sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn hygyrch i bob preswylydd a defnyddiwr gwasanaeth beth bynnag fo’u hoedran, rhyw, rhywioldeb, crefydd neu anabledd.
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu yn dilyn ymarfer ymgysylltu â’r bobl a ddiogelir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n cynnwys pobl ag anableddau a’r rheini o wahanol hiliau, yn ogystal â’r rheini â chrefyddau a chredoau gwahanol.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgysylltu ar y cyd â sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill ledled De-orllewin Cymru yn ystod 2023. Ategwyd y gwaith ymgysylltu gan adolygiad helaeth o ymchwil cenedlaethol a lleol a dogfennau polisi.
Eich Barn
Mae'r cynllun drafft yn nodi meysydd blaenoriaeth (Amcanion) i'r Cyngor weithredu arnynt. Hoffem wybod a ydych yn cytuno â'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd i weithredu arnynt a hoffem glywed eich sylwadau ar y cynllun drafft.
Gallwch roi eich barn drwy'r ffurflen ar-lein isod "Cymryd yr Arolwg". Bydd gofyn i chi gofrestru / mewngofnodi i lenwi'r ffurflen. Os cewch unrhyw anawsterau wrth gofrestru / mewngofnodi, anfonwch neges e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) i gael cymorth.
Cwblhewch yr arolwg erbyn Dydd Sul, 11 Chwefror 2024
Bydd eich ymateb yn cyfrannu at ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol terfynol 2024-28 a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Sir Penfro ym mis Mawrth 2024.
Byddwn yn dechrau rhoi’r cynllun ar waith ar 1 Ebrill 2024.
Gallwch ein ffonio a gofyn am gopi papur i'w bostio atoch, Ffôn 01437 764551, neu gallwch lawrlwytho ffurflen ymateb copi caled.
Ar ôl ei gwblhau, anfonwch e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) neu drwy'r post i Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP erbyn 11 Chwefror 2024.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni neu os bydd angen i chi gael gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, ffoniwch ni ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd).
This item is also available in English / Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.
Have Your Say Pembrokeshire.gov (opens in a new tab/yn agor mewn tab newydd)