Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28

Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 ar Facebook Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 Ar Twitter Rhannu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 Ar LinkedIn E-bost Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 dolen

Cydraddoldeb rhanbarthol yn gofyn am brofiadau o wasanaethau

Lansiwyd arolwg rhanbarthol gan bartneriaid y sector cyhoeddus i geisio barn gan bobl ar draws Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, wrth ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, o iechyd i dai.

Bydd y sylwadau yn dylanwadu ar waith ar gydraddoldeb o 2024 hyd at 2028, a sut mae pobl gyda nodweddion gwarchodedig yn cael eu heffeithio a’u trin wrth ddefnyddio gwasanaethau a ddarperir gan y sector.

Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar brif feysydd megis addysg, tai, iechyd, troseddu, hamdden a mynediad at yr arfordir a chefn gwlad. Mae’n gofyn i bobl sgorio eu profiadau o’r gwasanaethau hyn a’u barn am y profiad mae pobl eraill yn ein cymdeithas yn ei gael.

Rhaid i bob corff cyhoeddus lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n nodi sut y bydd gwasanaethau’n cael eu darparu a’u bod yn hygyrch i bobl, beth bynnag yw eu hoedran, eu rhyw, eu rhywioldeb, eu crefydd, eu dewis iaith neu unrhyw anableddau sydd ganddynt.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru naw o nodweddion gwarchodedig. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw ‘A yw Cymru’n Decach?’ (2018). Mae hwn yn nodi cyflwr y genedl wrth edrych ar grwpiau mwy bregus ein cymdeithas. Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol a restrir yn yr adroddiad.

Mae gan bob corff sector cyhoeddus ddyletswydd i wneud y canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir perthnasol, a’r rheiny nad ydynt
  • Meithrin perthnasau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd a warchodir a’r rheiny nad ydynt

Ochr yn ochr â’r arolwg hwn byddwn yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol penodol sy’n cynrychioli ac eirioli dros rhai o’r grwpiau nas clywir yn aml. Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau megis pobl Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, neu ffoaduriaid wedi’u hadsefydlu.

Mae awdurdodau lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cydweithio i baratoi’r holiadur yma.

Bydd yr holiadur yn fyw tan 30 Gorffennaf 2023. Mae'r arolwg yn cael ei gadw ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin, a gallwch ddilyn y ddolen ganlynol:

Holiadur Cynllun Cydraddoldeb Strategol llyw.cymru (Yn agor mewn tab newydd.)

Fel arall, gallwch lawrlwytho ffurflen ymateb copi caled. Ar ôl ei gwblhau, anfonwch e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk neu drwy'r post i Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP erbyn 30 Gorffennaf 2023.

Gallwch ein ffonio a gofyn am gopi papur i'w bostio atoch. Ffôn: 01437 764551.  Os bydd angen i chi gysylltu â ni neu os bydd angen i chi gael gwybodaeth mewn ffurfiau eraill, ffoniwch ni ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk neu Cyngor Sir Penfro, Tîm Polisi a Phartneriaeth, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP. 

Gallwch weld copi o adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach?’ trwy fynd i: Cydraddoldeb Hawliau Dynol (Yn agor mewn tab newydd), a dewis lawrlwytho’r fersiwn Gymraeg.

Diweddaru: 20 Meh 2023, 12:47 PM