Cyngor Sir Penfro (PCAP) Mannau Parcio Oddi ar y Stryd Gorchymyn Amrywio Rhif 2
Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) Mannau Parcio Oddi ar y Stryd 2015 Gorchymyn Amrywio rhif2 (2023)
Cynigir i amrywio'r Gorchymyn Maes Parcio presennol, sef Gorchymyn Cyngor Sir Penfro (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) Mannau Parcio Oddi ar y Stryd 2015, fel a ganlyn:-
1. Amrywio’r tariff 3 awr yng Ngholofn 7 o Atodlen 1 i dariff 4 awr mewn mannau parcio â'r rhifau 1, 2, 5, 9, 14, 15, 20, 21, 23, 24, 28, 29, 34 a 35
2. Diwygio'r ‘tâl tymhorol’ yn Atodlen 1, fel y nodir yn y ‘diffiniadau parcio’, o 15 Mawrth – 7 Tachwedd i 1 Mawrth – 31 Hydref yn y geiriau sy'n dilyn yr atodlen mewn perthynas â'r mannau parcio â'r rhifau 1, 2, 5, 9, 14, 15, 20, 21, 23, 24, 28, 29, 34 a 35
3. Diwygio'r tariffau yng Ngholofn 7 o Atodlen 1 mewn mannau parcio â'r rhifau 1, 2, 5, 9, 14, 15, 20, 21, 23, 24, 28, 29, 34 a 35
4. Diwygio'r cynlluniau ar gyfer y man parcio â'r rhif 21
Bydd yr amrywiadau yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro reoli’r meysydd parcio’n fwy effeithiol.
Mae manylion llawn y cynigion wedi’u cynnwys yn y gorchymyn drafft, ac mae modd gweld hwn, ynghyd â chynlluniau sy’n nodi’r meysydd parcio penodol yr effeithir arnynt, copi o Orchymyn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2015 a datganiad o resymau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros gynnig gwneud y gorchymyn, yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, a Swyddfeydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym Mharc Llanion, Doc Penfro, yn ystod oriau agor arferol. Mae'r gorchymyn hefyd i'w weld yn Sir Benfro gov.uk (yn agor mewn tab newydd) a hefyd Arfordir Penfro Cymru (yn agor mewn tab newydd).
Rhaid i bob gwrthwynebiad ac unrhyw sylwadau eraill sy'n ymwneud â'r gorchymyn arfaethedig gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig. Rhaid i bob gwrthwynebiad nodi ar ba sail y gwneir y gwrthwynebiad. Dylid anfon pob gwrthwynebiad a sylw ysgrifenedig o'r fath at y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad a ddarperir isod erbyn 9 Tachwedd 2023.
Darren Thomas, Pennaeth Seilwaith a’r Amgylchedd, Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.
Gellir anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig ar yr uchod hefyd at parking@pembrokeshire.gov.uk
Dyddiedig y diwrnod hwn 18 Hydref 2023.