Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb

Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb ar Facebook Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb Ar Twitter Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb Ar LinkedIn E-bost Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb dolen

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus canlynol wedi’i baratoi ar ran Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Pobol Porthgain. Nod yr arolwg yw casglu adborth y cyhoedd ar yr opsiynau cychwynnol o ran y parth cyhoeddus ac ymyriadau priffyrdd fel y’u cyflwynwyd ar gyfer Porth-gain.

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar yr opsiynau a’r wybodaeth a gyflwynwyd. Isod mae nifer o themâu yr ydym yn ceisio eich barn arnynt:

Opsiynau’r cynllun • Parcio • Llif y traffig • Deunyddiau • Tirlunio • Arwyddion

• Mynedfa`r pentref • Opsiwn trafnidiaeth gynaliadwy

Wrth ymgymryd â’r arolwg hwn, gwnewch yn siŵr bod y delweddau ar agor mewn tab newydd.

Eich Barn

Gallwch roi eich barn drwy'r ffurflen ar-lein isod "Cymryd yr Arolwg". Bydd gofyn i chi gofrestru (neu mewngofnodi) i lenwi'r ffurflen. Gofynnir i chi ateb cyfres o gwestiynau monitro. Nid yw’n ofynnol i chi ateb unrhyw un o’r cwestiynau hyn os nad ydych am wneud hynny. Fodd bynnag, bydd darparu’r wybodaeth hon yn ein helpu i asesu pa mor llwyddiannus yr ydym yn ymgysylltu ag adrannau gwahanol o’r boblogaeth. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu i ddiwallu anghenion y gymuned leol.

Os cewch unrhyw anawsterau wrth gofrestru / mewngofnodi, anfonwch neges e-bost at policy@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) i gael cymorth.

Gallwch ein ffonio a gofyn am gopi papur i'w bostio atoch am 01437 764551.

Ar ôl ei gwblhau, anfonwch ef mewn e-bost at: porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) neu ei bostio i: Tîm Strategaeth Drafnidiaeth, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Freemans Way, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP.

Fel arall, bydd copïau papur o'r dyluniadau (opsiynau) a'r arolwg, ynghyd â blwch sylwadau, yn cael eu gosod yn y Sloop, Porthgain er hwylustod. Bydd y fersiwn argraffedig a’r arolygon papur yn aros yn eu lle tan 8Mawrth am 5pm, pan fyddan nhw'n cael eu casglu.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 5pm ar 8 Mawrth 2024.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni, ffoniwch ni ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at porthgainforall@pembrokeshire.gov.uk (yn agor mewn tab newydd).

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect a dolen i’r uwchgynllun drafft ar gael ar-lein drwy:

sir benfro gov.uk / strategaeth-drafnidiaeth / porthgain-i-bawb

Gellir gweld a lawrlwytho’r cynlluniau hefyd ar wefan The Urbanists:  The urbanists.net / application / porthgain masterplan proposal (opens in a new tab/yn agor mewn tab newydd)

This item is also available in English / Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Have Your Say Pembrokeshire.gov (opens in a new tab / yn agor mewn tab newydd).

  • Mae'r arolwg hwn wedi cau.
    Cymryd yr Arolwg.
    Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb ar Facebook Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb Ar Twitter Rhannu Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb Ar LinkedIn E-bost Arolwg Rheoli Traffig Uwchgynllun Porthgain i Bawb dolen
Diweddaru: 08 Mar 2024, 11:45 PM