Arolwg Cymunedol Sir Benfro

Rhannu Arolwg Cymunedol Sir Benfro ar Facebook Rhannu Arolwg Cymunedol Sir Benfro Ar Twitter Rhannu Arolwg Cymunedol Sir Benfro Ar LinkedIn E-bost Arolwg Cymunedol Sir Benfro dolen

Mae'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cynnal Arolwg Cymunedol o ardal Prif Gyngor Sir Benfro.

Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bawb sydd â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol a chyflwyno eu barn ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd y Comisiwn yn cyhoeddi Adroddiad Cynigion Drafft ac yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny. Yna bydd pob cyflwyniad yn cael ei ystyried, a bydd Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedyn, os gwêl yn dda, yn rhoi effaith i’r argymhellion hyn naill ai fel y’u cyflwynwyd, neu gydag addasiadau.

Mae’r cyfnod ymgynghori cychwynnol yn agor ar 23 Hydref 2023 ac yn cau ar 17 Rhagfyr 2023.

Mae'r arolwg yn cael ei gadw ar wefan Comisiwn, a gallwch ddilyn y ddolen ganlynol:

Arolwg Cymunedol Sir Benfro | CFfDLC llyw.cymru (Yn agor mewn tab newydd).

Cyhoeddi: 23 Hyd 2023, 03:02 PM