Arolwg Adborth Sgìl Alexa

Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa ar Facebook Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa Ar Twitter Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa Ar LinkedIn E-bost Arolwg Adborth Sgìl Alexa dolen

Rydym wedi lansio sgìl Alexa ar gyfer y canlynol:

  • Cau Pont Cleddau
  • Casgliadau gwastraff
  • Cau ysgolion
  • Prydau ysgol gynradd

Dyma ein cynnig sgìl Alexa cyntaf, felly byddem wrth ein bodd pe baech yn rhoi rhywfaint o adborth ar sut yr ydych yn teimlo amdano. Hefyd, hoffem gael awgrymiadau ynghylch beth arall y gallem ei ychwanegu at ein sgìl Alexa a allai eich helpu yn y dyfodol i ddefnyddio ein gwasanaethau ar draws y Cyngor.

Felly, beth yw sgìl Alexa?

Alexa yw gwasanaeth llais Amazon, y gellir ei gyrchu trwy ‘ch dyfais Amazon neu ap Alexa. Dim ond i chi ddweud y gair ‘Alexa’ a bydd Alexa yn ymateb. Gallwch eisoes ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer chwarae cerddoriaeth, llunio rhestrau o bethau i'w gwneud, a gosod larymau, yn ogystal â chyrchu gwybodaeth am y tywydd a’r traffig a gwybodaeth amser real.

Mae sgìl Alexa yn debyg i ap. Gallwch alluogi ac analluogi sgiliau yn yr un ffordd ag y byddwch yn gosod a dadosod apiau ar eich ffôn clyfar neu lechen, gan ddod â'n cynhyrchion a'n gwasanaethau yn fyw.

Heb roi tro ar ein sgìl Alexa eto?

Ewch ati nawr: Sut i ddechrau defnyddio sgìl Alexa Cyngor Sir Penfro

Adborth Sgìl Alexa

Diolch yn fawr am gymryd yr amser i brofi ein sgìl Alexa. Byddem wrth ein bodd yn gwybod sut yr ydych yn teimlo am eich profiad cyntaf, a'r hyn yr ydych yn meddwl y gallem ddefnyddio hwn ar ei gyfer yn y dyfodol.

Cymerwch ychydig funudau i ateb y cwestiynau canlynol.

  • Take Survey
    Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa ar Facebook Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa Ar Twitter Rhannu Arolwg Adborth Sgìl Alexa Ar LinkedIn E-bost Arolwg Adborth Sgìl Alexa dolen
Cyhoeddi: 14 Tach 2022, 02:27 PM