Adroddiad y Prosiect Ymgysylltu Cymunedol Castell Hwlffordd

Rhannu Adroddiad y Prosiect Ymgysylltu Cymunedol Castell Hwlffordd ar Facebook Rhannu Adroddiad y Prosiect Ymgysylltu Cymunedol Castell Hwlffordd Ar Twitter Rhannu Adroddiad y Prosiect Ymgysylltu Cymunedol Castell Hwlffordd Ar LinkedIn E-bost Adroddiad y Prosiect Ymgysylltu Cymunedol Castell Hwlffordd dolen

Prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £10,000 yn dangos balchder tref yn ein Castell

Yn 2022, dyfarnwyd grant o £10,000 i Gyngor Sir Penfro gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal gwaith Ymgysylltu â'r Gymuned ar ddyfodol Castell Hwlffordd.

Nod y prosiect hwn oedd goresgyn y rhwystrau i ymgysylltiad â threftadaeth a chreu gwaddol o leisiau amrywiol a hyderus sy’n llywio’r gwaith o ailddatblygu Castell Hwlffordd, sut mae’n cael ei ddefnyddio, a sut mae pobl yn ymgysylltu ag ef ac yn gwirfoddoli. O ganlyniad, bydd treftadaeth y Castell yn cael ei rhannu, ei deall a’i defnyddio’n well, ac felly’n cael ei gwerthfawrogi a’i gwarchod yn fwy.

Y cyfnod ymgysylltu â'r gymuned oedd rhwng mis Gorffennaf a chanol mis Hydref 2022. Llwyddodd y prosiect i ymgysylltu â mwy na 1,000 o bobl a gynigiodd eu barn a’u syniadau ynghylch sut y gellid datblygu’r safle.

Dangosodd y prosiect lefel uchel o falchder lleol yng Nghastell Hwlffordd. Dywedodd 791 o bobl a gwblhaodd yr arolwg fod cadw a rhannu treftadaeth Castell Hwlffordd yn bwysig iddyn nhw. Teimlai 88% o ymatebwyr y dylid defnyddio a chynnal y Castell yn well. Dywedodd dros draean o bobl y byddai diddordeb ganddynt mewn cyfleoedd gwirfoddoli yn y Castell yn y dyfodol a dywedodd 75 o bobl yr hoffent ddysgu sgiliau cadwraeth treftadaeth ymarferol. Cafodd pawb a gymerodd ran gyfle i ddweud pa fath o weithgareddau yr hoffent weld yn cael eu datblygu yn y Castell ac roedd nifer o grwpiau ffocws i archwilio syniadau ar gyfer arddangosfa i’w lleoli yn yr hen Garchar sy’n adeilad rhestredig Gradd II.

Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliant, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru:

“Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi derbyn y cymorth hwn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod llawer o gefnogaeth yn y dref i adfywio’r Castell. Mae'n rhan annatod o hanes cyfoethog Hwlffordd ac mae'r cyhoedd wedi rhoi adborth defnyddiol iawn i ni ei gynnwys yn ein cynlluniau”.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Diweddaru: 10 Chwef 2023, 10:25 AC