Adroddiad Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad

Rhannu Adroddiad Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad ar Facebook Rhannu Adroddiad Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad Ar Twitter Rhannu Adroddiad Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad Ar LinkedIn E-bost Adroddiad Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad dolen

Helpwch Ni i Bontio’r Bwlch Cyllido 2023 – 2027

Beth sy’n Digwydd gyda Chyllideb y Cyngor?

▪ Fel Cynghorau eraill yng Nghymru, mae Cyngor Sir Penfro’n dal i wynebu pwysau sylweddol ar ei gyllideb

▪ Ar gyfer 2023 – 24 rydym yn wynebu diffyg amcangyfrifedig mewn cyllid refeniw net o £27.9 miliwn. Mae hyn yn seiliedig ar y dybiaeth ein bod yn derbyn cynnyd o 3.5% yn ein setliad gan Lywodraeth Cymru. Wrth edrych ymhellach ymlaen, ein hamcangyfrif presennol ar gyfer Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023 – 24 i 2026 – 27 yw bwlch ariannu rhagamcanol o dros £60 miliwn ac mae hyn yn debygol o gynyddu

▪ Bydd deall blaenoriaethau cymunedau’n ein helpu i wneud y dewisiadau anodd sy’n angenrheidiol wrth bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023 – 24 a’r tu hwnt

▪ Dros y degawd diwethaf, rydym wedi llwyddo i bontio bwlch cyllido o £123.9 miliwn. I wneud hyn rydym eisoes wedi gwneud llawer iawn o arbedion yn y gyllideb, o’r math y gwnaethoch chi eu hawgrymu wrthym mewn blynyddoedd blaenorol

▪ Bu cynnydd yn nifer y bobl y mae angen ein help ni arnynt – gofal cymdeithasol a digartrefedd yw’r meysydd lle’r ydym yn gweld cynnydd mawr yn y galw ac mewn costau cysylltiedig

▪ Mae angen i ni fynd ati ar frys i recriwtio mwy o ofalwyr cymdeithasol cymwys, staff gofal eraill a gofalwyr maeth, er mwyn i ni allu parhau i roi’r mathau cywir o gymorth i bobl y mae eu hangen arnynt fwyaf

▪ Mae costau cyflogaeth wedi cynyddu, o ganlyniad i gynnydd mewn isafswm a chyflogau byw, yn ogystal â chynnydd sylweddol mewn gwobrau cyflog i bob aelod o staff gan gynnwys athrawon

▪ Mae’r swm y mae’n rhaid i ni ei dalu am bethau fel tanwydd a deunyddiau wedi codi hefyd – ac mae rhagolygon yn awgrymu bod codiadau’n mynd i barhau, o ganlyniad i Brexit, y pandemig a’r rhyfel yn Wcráin

▪ Mae hyn hefyd yn effeithio ar gostau benthyca – rydym ni’n teimlo’i bod yn hollbwysig cynnal ein buddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf a gweithio’n galed i gadw lefelau benthyca ar gyfer rhaglenni megis adeiladu ysgolion newydd o fewn terfynau fforddiadwy

Bu gwasgfa bellach ar gyllideb Cyngor Sir Penfro oherwydd:

Am flynyddoedd lawer bu gan Sir Benfro’r Dreth Gyngor (Band D) isaf yng Nghymru ac felly y mae hi o hyd. Wrth gyfrifo faint o grant i’w roi i bob Cyngor yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n tybio ein bod ni i gyd yn cynhyrchu incwm Treth Gyngor ar yr un lefel gyfartalog. Yn Sir Benfro nid ydym wedi bod yn gwneud hyn. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm ein cyllid i ariannu’r gyllideb (grant Llywodraeth Cymru + Y Dreth Gyngor) wedi bod yn llai o lawer o’i gymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Cynghorau cyfagos yn Sir Gâr a Cheredigion (mewn termau cymharol).

Sylwer mai amcangyfrifon cychwynnol yw’r holl ffigyrau a roddir. Bydd y rhain yn newid wrth i ni symud trwy broses cynllunio’r gyllideb ac wrth i ni gael eglurder mewn perthynas â thybiaethau cychwynnol.

Er enghraifft o'r hyn y mae'r Cyngor yn gwario £100,000 sy'n gyfystyr â nhw mewn termau real yma

Mae nifer o ffyrdd y gellir cau’r bwlch cyllido

Gallwn wneud newidiadau i’r canlynol:

1

Y ffordd y darperir gwasanaethau. Ni fydd rhai o’r newidiadau hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn cael gwasanaethau o anghenraid ond bydd llawer ohonynt yn effeithio ar hynny

2

Y swm yr ydym yn ei godi’n uniongyrchol am rai gwasanaethau

(megis meysydd parcio, Canolfannau Hamdden a.y.b.)

3

Y gyfradd Treth Gyngor a godir gennym

Mae cynigion ar gyfer ffyrdd y gellir cau’r bwlch cyllido wedi cael eu gwneud gan gyflogeion ac aelodau’r Cyngor Sir. Bydd effaith y mwyafrif o’r cynigion am arbedion i’r gyllideb yn cael ei theimlo’n fewnol yn y Cyngor neu dim ond ar grŵp penodol o randdeiliaid. Serch hynny, ceir nifer o gynigion a allai effeithio ar y ffordd y mae’r cyhoedd yn cael gwasanaethau. Dyma’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon.

Sylwer bod y cynigion sy’n ymddangos yn y ddogfen hon yn cynrychioli cyfran fach yn unig o gyfanswm y cynigion arbed cyllideb. Mae'r ffigyrau a roddir yn arwyddol yn unig ond yn helpu i ddangos sut y gallai'r cynigion gyfrannu tuag at bontio'r bwlch cyllido ar gyfer 2023-24. Fodd bynnag, gan y byddai’r cynigion yn effeithio ar y gyllideb sylfaenol byddent yn helpu i gyfrannu tuag at bontio’r bwlch ariannu ar gyfer blynyddoedd yn y dyfodol hefyd.

Yr ymgynghoriad ar y gyllideb

Cafodd cynigion, am ffyrdd y gall y bwlch ariannu bontio, eu gwneud gan weithwyr ac aelodau'r Cyngor Sir. Bydd effaith mwyafrif y cynigion ar gyfer arbedion i'r gyllideb i'w deimlo'n fewnol yn y Cyngor neu ar grwpiau penodol o randdeiliaid yn unig. Fodd bynnag, roedd nifer o gynigion a fydd, o bosib, yn cael effaith ar y ffordd mae gwasanaethau'n cael eu derbyn gan y cyhoedd. Dyma'r cynigion gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad.

Noder mai cyfran fechan yn unig o gyfanswm y cynigion arbed cyllideb oedd y cynigion a ymddangosodd o fewn yr ymgynghoriad. Roedd y ffigyrau a roddwyd yn arwydd yn unig ond fe helpodd i ddangos sut y gallai'r cynigion gyfrannu tuag at bontio'r bwlch ariannol ar gyfer 2023-24. Fodd bynnag, gan y gallai'r cynigion effeithio ar y gyllideb sylfaenol gallent helpu i gyfrannu tuag at bontio'r bwlch ariannu ar gyfer blynyddoedd i ddod hefyd.

ADRODDIAD YMGYNGHORI - mae'r Adroddiad Ymgynghori bellach ar gael i'w lawrlwytho ar y dudalen hon.

Bydd Cyllideb 2023 - 24 yn cael ei drafod yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Llun 13 Chwefror ac yn cael ei gosod gan y Cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau 2 Mawrth 2023.

Gallwch ddod o hyd i bapurau ar gyfer y cyfarfodydd hyn a gweld gwe-ddarllediadau yn y cyfarfodydd hyn ar ein gwefan yn https://www.sir-benfro.gov.uk/y-cyngor-a-democratiaeth

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Ffurflen Gyflawn
    Rhannu Rhaggofrestru yma ar Facebook Rhannu Rhaggofrestru yma Ar Twitter Rhannu Rhaggofrestru yma Ar LinkedIn E-bost Rhaggofrestru yma dolen
  • AR GAU: mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau.
    Ffurflen Gyflawn
    Rhannu Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad ar Facebook Rhannu Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad Ar Twitter Rhannu Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad Ar LinkedIn E-bost Cyllideb 2023 2024 Ymgynghoriad dolen
Diweddaru: 10 Chwef 2023, 09:43 AC