Rhannu Adolygiad Polisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig ar FacebookRhannu Adolygiad Polisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig Ar TwitterRhannu Adolygiad Polisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig Ar LinkedInE-bost Adolygiad Polisi Dyrannu Cartrefi Dewisedig dolen
Mae Cyngor Sir Penfro yn adolygu ei bolisi Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro a hoffem wneud yn siŵr ein bod yn cael cymaint o safbwyntiau â phosibl gan ein cynghorwyr, staff, tenantiaid, partneriaid a'r gymuned ehangach er mwyn deall eich profiadau a'ch barn a sicrhau ein bod yn ystyried y rhain wrth adolygu ein polisi presennol. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cofrestr tai yn seiliedig ar ddewis ac anghenion sydd i'w gweld yn: CartrefiDewisedig Sir Benfro
Mae'r polisi yn nodi:
Sut yr ydym yn rheoli dewis a’r hyn sy’n well gan yr ymgeisydd
Pwy all wneud cais am dai
Sut yr ydym yn asesu ac yn blaenoriaethu ymgeiswyr ar gyfer tai
Oherwydd y pwysau sylweddol ar ein cofrestr dros y ddwy flynedd ddiwethaf a’n hawydd i sicrhau bod gennym bolisi sy'n addas ar gyfer nawr a'r dyfodol, rydym wedi penderfynu adolygu ein dull gweithredu a gofyn am eich sylwadau a'ch profiadau i'n helpu i reoli'r galw am dai yn y ffordd orau bosibl.
Byddem wir yn gwerthfawrogi eich amser i gwblhau'r arolwg canlynol. Mae'r arolwg penodol hwn yn ceisio barn ar nodau ac amcanion y polisi – byddwn yn trefnu nifer o wahanol ymgysylltiadau dros y misoedd nesaf i ofyn eich barn ar fanylion penodol y polisi.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg yw 09/01/2023
Mae'r gwaith ymgysylltu hwn yn cael ei gynnal gan gwmni ymgynghori allanol. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei rhannu â'r cwmni ymgynghori er mwyn dadansoddi, rhoi adborth ac i wneud argymhellion.